Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Ynni Adnewyddadwy :: Technoleg :: Ynni Gwynt



Tyrbinau Gwynt (Microwynt) PDF Argraffu Ebost newid
Ysgrifennwyd gan Tim Brew   
FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 21:03
AddThis Social Bookmark Button
Beth yw Tyrbin Gwynt?
 Mae tyrbinau gwynt yn newid ynni cinetig o’r gwynt yn ynni trydanol. Mae posibilrwydd sylweddol i dynnu ynni o’r ffynhonnell hon o ystyried bod gan y DU 40% yn fras o holl adnodd gwynt Ewrop. Fodd bynnag, nid oes digon o ddefnydd arno hyd yn hyn.

Mae tyrbinau gwynt domestig llawer yn llai na’r rhai hynny a welwch ar ffermydd gwynt, ond maent yn gweithredu yn yr un math o fodd, gan ddarparu allbwn o ychydig ddegau  watiau’n unig i nifer  gilowatiau ar gyfer gosodiadau maint cartrefi.

O’r holl systemau ynni adnewyddadwy, tyrbinau gwynt yw’r mwyaf dadleuol mwy na thebyg, ac ar yr un pryd, mae’n anoddach dyfalu yn nhermau perfformiad yn sgil nifer fawr o newidynnau sy’n gysylltiedig.

Mathau o dyrbinau gwynt domestig
Mae cynllun tyrbinau’n dibynnu ar p’un ai yw ar echel llorweddol neu echel fertigol, gyda’r peiriannau ag echel llorweddol llawer mwy cyffredin. Diffinnir yr echel gan gyfeiriad y siafft rotor. Gallant hefyd fod yn sefyll yn annibynnol ar bolyn neu fast, neu’n fwy diweddar, wedi eu gosod ar adeilad.


  • Nid oes angen i beiriannau echel fertigol (VAWT) bwyntio i gyfeiriad y gwynt ac felly gallent fod yn fwy addas ar gyfer ardaloedd sydd ag amodau gwynt tyrfol. Un anfantais gyda pheiriannau echel fertigol yw nad ydynt o bosibl yn gymwys i ailddechrau eu hunain ac maent yn llai effeithlon yn gyffredinol
  • Mae peiriannau echel lorweddol (HAWT) yn cael eu gosod yn llawer mwy cyffredin, ac yn nodweddiadol mae ganddynt tair llafn rotor neu fwy. Maent yn cyfeiriadu eu hunain yn awtomatig gyda chyfeiriad y gwynt sy’n dod i mewn, ond maent yn symud wrtho adeg gwyntoedd sydd â chyflymder mawr er mwyn atal niwed
  • Mae polyn wedi eu gosod yn cynnwys naill ai dur neu ddeunydd cyfansawdd (tŵr tiwbaidd), tŵr rhaff lle lleolir tyrbin a generadur ar ei ben
  • Mae gosodiad adeiladau wedi eu cynllunio ar gyfer cysylltu'r peiriant i adeilad, megis ar dalcen tŷ sydd ag allbwn yn amrywio o tua 0.5kW - 2.5kW        

Sut mae Tyrbin Gwynt yn gweithio?
Mae gan dyrbinau gwynt ar echel lorweddol wastad sy’n cylchdroi yn berpendicwlar i’r gwynt sy’n dod i mewn.

Pan fo aer yn llifo heibio i lafnau’r tyrbin, fe roddir grym ar y llafnau a phen ôl yr asgell, gan wthio’r tyrbin i gyfeiriad y gwynt. Mae grym codi hefyd yn cael ei greu oherwydd siap arbennig y llafnau rotor gan beri i’r rotor gylchdroi o amgylch yr echel ganolog mewn ffordd debyg.

Mae’r rotor wedi ei gysylltu i’r siafft sy’n gyrru’r generadur yn uniongyrchol, gan gynhyrchu allbwn trydanol o’r peiriant. Gall peiriannau mwy wneud defnydd o gerbocs er mwyn cynnal cyflymder generadur sefydlog ar gyfer amodau gwynt gwahanol.

Mae tyrbinau gwynt domestig yn tueddu creu trydan o foltedd ac amlder AC amrywiol, ac mae angen ei newid i DC ac wedyn AC sydd â’r nodweddion cywir ar gyfer cyfannu i’r grid trydan cenedlaethol ac ar gyfer defnydd gydag offer y cartref.

Pa gydrannau sy’n cynnwys System Tyrbin Gwynt?
Prif gydrannau tyrbin gwynt yw:
1.Y tyrbin a generadur
2.Polyn/mast/trawst/gosodiadau
3.Gwrthdröydd/cyflyrydd pŵer
4.Cronfa fatri (dewisol)
5.Llwyth Storfa (dewisol). Pwrpas hwn yw rhoi ynni dros ben sy’n cael ei gynhyrchu mewn systemau oddi ar y grid pan fo’r batris yn llawn ac yn methu cymryd mwy o wefru, gan gadw’r tyrbin yn hollol lawn er mwyn atal niwed. Gwneir hyn yn  aml gan wresogydd trydan

Faint o ynni gallaf ddisgwyl o dyrbin gwynt?
Fel sy’n wir gyda nifer o hylifau eraill, ar gyfer pob cyflymder gwynt sy’n dyblu, mae’r ynni sydd ar gael o’r gwynt yn cynyddu’n wythblyg. Felly, y mwyaf agored yw’r safle a’r mwyaf yw cyflymder gwynt sydd ar gael ar gyfartaledd, y mwyaf yw’r posibilrwydd ar gyfer harneisio pŵer o’r gwynt.

Hefyd, mae cyflymder y gwynt yn cynyddu gydag uchder tra bod tyrfed yn lleihau, gan ddarparu allbwn pŵer mwy dibynadwy a chyson ac amgylchedd gweithredu mwy diogel i’r tyrbin.

Gall tyrbinau gwynt sydd wedi eu lleoli’n dda gynhyrchu ynni sy’n cyfateb i gyfradd  pŵer o tua 30% y flwyddyn, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Er enghraifft: ar gyfer tyrbin sydd â chyfradd o bedwar cilowat mae hyn yn cyfartalu â (4kW x 0.3 x 8760 awr y flwyddyn) = 10,512 kWh y flwyddyn. Os defnyddir yr holl bŵer hwn i osod trydan sy’n costio 10 ceiniog am bob kWh, mae arbediad o £1,051 y flwyddyn yn bosibl.

Ceisiwch sicrhau fod gan eich lleoliad arfaethedig gyflymder gwynt sydd o leiaf 5 metr i bob eiliad ar gyfartaledd, ac yn ddelfrydol 6m/e cyn gosod y tyrbin gwynt.


Beth yw manteision tyrbin gwynt?
•Generadiad pŵer posibl drwy gydol y flwyddyn, nos a dydd
•Gallant gael eu gosod mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol
•Gallant gael eu cysylltu â’r grid neu sefyll yn annibynnol
•Gallant ddarparu gosodiad gweledol cryf am ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd



Sut mae Tyrbinau Gwynt yn cael eu gosod?
Gall tyrbinau gwynt gael eu gosod naill ai ar adeilad neu ar ben tŵr sydd naill ai’n diwb solet neu raff (gweler y diagram). Yn yr achos diwethaf, rhaid iddynt gael eu codi ar y ddaear a’i winsio i’w lle.

Fe argymhellir mai tyrbinau sydd â chyfradd allbwn isel yn unig a ddylai cael eu gosod ar adeilad. Yn ychwanegol, bydd rhif llafn mwy yn cynyddu perfformiad ar gyflymder gwynt llai, gan leihau dirgryniad a galluogi gweithrediad tawelach. Mae cyfraddau pŵer isel ynghyd â diamedr rotor wedi ei leihau yn lleihau’r llwyth ochrol ar yr adeilad, gan fod adeiladau wedi eu cynllunio’n bennaf i gymryd llwythi cywasgedd.

Ar gyfer safleoedd lle mae rhwystrau’r effeithio ar lif yr aer (megis coed, adeiladau, gwrthrychau mawr), mae’r llif yn dod yn fwy tyrfol ac yn gofyn am fesurau rheoli ychwanegol i weithredu’r tyrbin yn ddibynadwy ac yn ddiogel. Mewn unrhyw achos, bydd cynnwrf yn lleihau oes gweithredu tyrbin gwynt yn ogystal â chynyddu amlder yr arfer o gynnal a chadw hanfodol.

Addasrwydd
Mae cynlluniau llafnau mwy datblygedig wedi lleihau lefelau’r sŵn yn ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, gall materion godi am effaith weledol a chlywedol y gall y system ei gael arnoch a’ch cymdogaeth, felly fe’ch argymhellir i gael cyngor oddi wrth Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol cyn ymrwymo i wneud unrhyw bryniant.

Mae angen i chi ystyried p’un ai byddai’n well gennych dyrbin wedi ei osod ar adeilad neu un sydd wedi ei osod ar dŵr. Gallai’r tŵr fod naill ai’n fast rhaff neu’n adeilad tiwbaidd solet; mae’r un cyntaf yn llai drud ond yn gofyn am fwy o dir.

Mae angen digon o le i godi ac i ostwng y mast ar sail gyfnodol ar gyfer cynnal a chadw rheolaidd.

Mae cyflymder y gwynt yn cynyddu gydag uchder, felly er mwyn cael y mwyaf o’ch gosodiad, yn ddelfrydol mae angen cymysgedd o fast/tŵr uchel arnoch a safle agored. Mae unrhyw adeiladau neu goed mawr gerllaw yn achosi tyrfedd sy’n medru niweidio a lleihau allbwn yr ynni, felly dylid osgoi gosodiadau gerllaw'r rhai hynny os yn bosibl.
Mae adnodd gwynt fel arfer yn anrhagweladwy, felly’r peth gorau yw i chi ofyn eich gosodwr i asesu potensial y safle.

Cynnal a chadw
Gan mai peiriant trydanol yw hwn yn gweithredu mewn amodau garw, efallai bydd angen gwasanaeth blynyddol fel y disgrifir yng nghanllaw technegol unrhyw beiriant a brynir.


Cysylltiad grid ac allforio’r ynni sydd dros ben
Cyn cysylltu unrhyw offer sy’n generadu trydan i’r grid lleol, dylech gael cyngor a chymeradwyaeth gan eich Gweithredwr Dosbarthu Rhwydwaith (DNO), a gwneud yn siŵr fod eich offer yn bodloni rheoliadau G83/1. Dylai’ch gosodwr tyrbin fod yn gallu eich helpu gyda hyn.
Mewn achos lle mae’r grid yn methu (toriad trydan), bydd eich system tyrbin yn cau yn awtomatig er mwyn sicrhau diogelwch unrhyw beirianwyr sy’n gweithio ar y llinellau pŵer.

Gellir gwerthu unrhyw ynni sydd dros ben i’r grid cenedlaethol; cysylltwch â’ch cyflenwr ynni am fwy o wybodaeth ynghylch y dewisiadau sydd ar gael i chi. Gall y cysylltiad â’r grid fod yn fwy cymhleth ar gyfer y tyrbinau sydd â chyfradd dros 6kW.


Costau Gosod
Cyfradd sylweddol cost system tyrbin gwynt yw’r tyrbin ei hun a’r gwrthdröydd cysylltu’r grid. Peiriannau mecanyddol yw’r tyrbinau gwynt ac maent yn gweithredu mewn amodau garw; bydd dewis peiriant sydd wedi ei adeiladu o gydrannau sydd o ansawdd uwch yn cynyddu ei gost a’i ddibynadwyedd yn gyffredinol. Bydd y gost o osod a chomisiynu system tyrbin gwynt sydd wedi ei chysylltu â’r grid yn fras fel a ganlyn:
•Adeilad wedi ei osod: £1,500 am allbwn cyfradd un kW
•Tŵr wedi ei osod: £2,500 - £5,000 am bob allbwn cyfradd kW
•Cost system nodweddiadol 2.5kW yw oddeutu £11,000 - £12,500
•Cost system nodweddiadol 6kW yw oddeutu £18,000 - £25,000
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013
EcoCentreWales
EcoCentreWales @UnitedWelsh Thanks for the #FF

in reply to UnitedWelsh

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Renewables 'help jobs and growth' http://t.co/14diEl88

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.
EcoCentreWales
EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.