You are here:
| Systemau Solar Thermol i Dwymo Dŵr |
|
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Tim Brew |
| FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 20:41 |
|
Yr Haul ac ynni solar Yn flynyddol, mae’r DU yn derbyn pelydriad solar sy’n cyfateb i allbwn nodweddiadol 1,000 o orsafoedd pŵer, ac mae’n darparu y rhan fwyaf o’n ynni adnewyddadwy drwy yrru gwynt, tonnau a systemau dŵr a chynnal bywyd planhigol. Gall ynni solar gael ei ddefnyddio’n fwy uniongyrchol i roi dŵr poeth domestig. Mae’r galw blynyddol am ddŵr poeth domestig fel arfer angen tua 3,000 – 4,000 KWh i bob aelwyd; gyda chyfanswm galw blynyddol am ynni mewn aelwydydd o 26,000kWh ar gyfartaledd. Yn flynyddol, derbynnir dros 1000KWh o ynni ar gyfer pob metr sgwâr o’r Ynysoedd Prydeinig; hynny yw 60% o’r pelydriad solar sydd wedi ei ddarganfod ar y cyhydedd, a thraean o’r galw am ynni dŵr poeth ar ran aelwydydd. Rydym dal yn derbyn ynni ar ddiwrnodau cymylog oddi wrth heulwen anuniongyrchol. Byddai’r cyfanswm o ynni solar sydd yn cyrraedd to tŷ cyffredin yn y DU yn darparu’r angen am wres a dŵr poeth yn hawdd, er bod yr ynni sydd ar gael yn yr haf yn fwy na’r gaeaf. Daw’r ynni adnewyddadwy o ynni solar haul, ar wahân i bŵer y tonnau ac ynni geothermol (ni ddylid eu drysu â phympiau gwresogi o’r ddaear); mae hyd yn oed y gwynt a biomas yn cael eu creu o ganlyniad i’r Haul. Beth yw System Wresogi Solar ar gyfer Dŵr? Y Systemau Thermol Solar i dwymo dŵr (SHW) yw un o’r systemau ynni adnewyddadwy symlaf a osodir mwyaf heddiw. Maent yn trosglwyddo ynni helaeth o’r Haul yn ddŵr poeth yn eich silindr dŵr poeth. Bydd SHW hyd yn oed yn creu gwres yn y gaeaf, ond bydd angen llenwi i’r tymheredd sydd ei angen drwy ffynhonnell wresogi eilaidd, megis boeler presennol neu wresogydd troch. Mae’r SHW yn y ffordd hon yn ategu at eich system dŵr poeth yn hytrach na’i disodli’n llwyr. Ar gyfer annedd ddomestig gyffredin yn y DU, mae gwresogi dŵr dyddiol yn defnyddio tua 5-11 kWh o ynni, ond mae’n amrywio’n sylweddol gyda’r nifer sydd yn y tŷ a’u ffordd o fyw. Defnyddir gwresogi gofod o thermol solar yn llai yn y DU. Y rheswm am hyn yw oherwydd y byddai angen system aruthrol o fawr a drud. Hefyd, pan fo angen ynni ar gyfer gwresogi gofod fwyaf (yn ystod y gaeaf), dyma pryd y mae’r ynni solar lleiaf ar gael, ond fe ddefnyddir dŵr poeth drwy gydol y flwyddyn. Mathau cyffredin o wresogi thermol solar ar gyfer dŵr (SHW) Mae dau brif fath o gasglwyr ar gael, y ddau â nodweddion eu hunain:
Mae ynni solar yn cael ei amsugno gan gasglwyr solar, sydd fel arfer wedi eu gosod ar do adeilad. Pan maent yn agored i’r haul, mae’r casglwyr solar yn poethi i dymheredd sy’n sylweddol uwch na thymheredd yr aer amgylchynol, ac unwaith y maent nifer o raddau Celsius yn boethach na’r dŵr yn eich silindr dŵr poeth, bydd gwres yn cael ei drosglwyddo i’r silindr. Mae’r casglwyr eu hunain fel arfer yn system sy’n aros ar gau (yn anuniongyrchol) wedi ei llenwi gan gymysgedd gwrthrewi (hylif trosglwyddo gwres) sy’n amgylchynu o amgylch y system. Mae hyn yn cymryd y gwres sy’n cael ei amsugno gan y casglwyr ac yn ei ddadlwytho i mewn i’r silindr dŵr poeth drwy gyfnewidfa gwres, yn yr un ffordd â boeler confensiynol. Nid oes dim cymysgu rhwng y dŵr sydd yn y silindr a’r gymysgedd gwrthrewi yn digwydd. Mae rhai gosodwyr yn darparu offer nad yw’n golygu bod angen newid y silindr dŵr poeth coil unigol presennol, er nad yw’r rhain mor gyffredin. Mae systemau draenio’n ôl yn uniongyrchol yn galluogi hyn gan y gall yr hylif sy’n llifo drwy’r casglwr fod yr un dŵr sy’n llifo ymhen hir a hwyr o’ch tap dŵr poeth. Mae systemau eraill yn gofyn am osod silindr dŵr poeth coil dwbl (silindr solar), lle mae’r coil cyfnewid gwres ar gyfer y system wresogi dŵr solar wedi ei leoli islaw system wresogi gonfensiynol yn y tanc dŵr poeth. Mae hyn yn dynodi’r system solar thermol fel y brif ffynhonnell gwresogi dŵr, gan atal y boeler confensiynol rhag crasu’n ddiangen. Paneli fflat yw’r symlaf o’r ddwy dechnoleg casglu, yn costio llai ac yn fwy effeithlon yn sgil hynny. Yn eu hanfod, maent wedi eu gwneud o len gwastad hirsgwar o fetel wedi ei orchuddio gyda phaent arbennig sy’n amsugno. Mae cyfres o bibellau’n cyffwrdd â chefn y llen metal lle y llifa’r gymysgedd gwrthrewi, gan symud gwres o’r panel a’i drawsgludo i’r silindr dŵr poeth. Mae hwn wedi cael ei orchuddio gan uned insuleiddio ac wedi ei wydrogi i’r blaen. Mae’r paneli fflat yn edrych yn debyg iawn i ffenestri Velux pan gânt eu gosod ar y to. Mae Casglwyr Pibellau wedi eu Gwacáu yn fwy datblygedig, ac yn cynnwys rhestrau cyfochrog, cynnil o bibellau wedi eu gwacáu sy’n cynnwys pibell gwres, naill ai â chysylltiad ‘sych’ neu ‘wlyb’. Mae gwres sy’n cael ei ddal yn y pibellau’n cael ei atal rhag dianc drwy wactod rhannol ac felly maent yn fwy effeithlon, yn enwedig mewn tywydd oerach. Caiff y gwres ei drosglwyddo o’r casglwr i faniffold, lle mae’r hylif trosglwyddo gwres yn llifo; gan gymryd yr ynni gwres sy’n cael ei gynhyrchu i’r silindr dŵr poeth. Unwaith y mae’r gwres yn cyrraedd y silindr dŵr poeth, mae hylif trosglwyddo’r gwres sydd wedi oeri yn cylchredeg yn ôl i’r casglwr fel ei fod yn gallu aildwymo a dechrau’r broses unwaith eto. Pa gydrannau sy’n cynnwys Systemau SHW? Mae’r holl systemau gwresogi dŵr thermol solar yn cynnwys rhai cydrannau sylfaenol cyffredin:
Mae hyn yn dibynnu’n bennaf ar argaeledd yr ynni i’r system (ardal casglu, cyfeiriadedd ac amodau lleol) a chyfanswm y dŵr sydd angen ei wresogi (galw). Os mai ychydig o ddŵr poeth a ddefnyddir, cyfanswm bach yn unig o ynni bydd y system SHW yn medru ei ddarparu. Os defnyddir cyfanswm mawr o ddŵr poeth, mae gan y SHW y potensial i ddarparu llawer o ynni poeth i mewn i’r silindr dŵr poeth, yn enwedig yn yr haf. Mae cysgodi systemau SHW yn llai allweddol na beth yw gyda PV. Dylai system sydd wedi cael ei chynllunio a’i gosod yn iawn allu darparu rhwng 50% - 70% o alw blynyddol aelwydydd am ddŵr poeth; ac i fyny at 100% yn ystod misoedd yr haf, a 5% - 10% y ystod misoedd y gaeaf. Beth yw manteision SHW? Amcangyfrifir bod degau ar filoedd o systemau gwresogi dŵr domestig solar yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y DU. Yn nodweddiadol, gall 50-70% o anghenion blynyddol dŵr poeth aelwydydd gael ei gynhyrchu gan solar thermol, gan ddarparu o leiaf 20 mlynedd o wasanaeth defnyddiol. Mae’r manteision eraill yn cynnwys:
Addasrwydd Yn ddelfrydol, dylai’r system SHW wynebu rhwng y de-ddwyrain a’r de-orllewin ar gyfer y perfformiad gorau, a bod ar ogwydd o 30-45 gradd i’r llorwedd ar gyfer y DU; ni ddylai’r rhesi fod ar ongl sy’n wynebu tua’r gogledd. Dylid cadw cysgod i’r isafswm hefyd. Cynnal a chadw Mae cynnal a chadw systemau SHW yn isel: mae eisiau i berchennog y tŷ edrych arno’n flynyddol ac mae eisiau arolwg mwy manwl gan beiriannydd a fydd yn newid y gwrthrewydd bob 3-5 mlynedd. Costau Gosodiad Cyfran sylweddol o’r gost am system dŵr poeth thermol solar yw’r casglwyr eu hunain, gyda’r cynllun plât fflat mwy syml yn rhatach. Dylai pris gosod system thermol solar cyffredin wedi ei gomisiynu (2-3 panel) felly fod tua:
|
| LAST_UPDATED2 |
Support the Eco Centre via SMS
You can now donate quickly and easily using your mobile phone.
Text ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10
to 70070.
Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.
UK tax payers can add Gift Aid too.
News and views

EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js

EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013


Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales
Retweeted • 1 retweet


EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF
• 1 retweet

EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.

EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.
• 1 retweet

EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy

EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.








