You are here:
| Pympiau Gwres (GSHP) |
|
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Tim Brew |
| FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 21:00 |
|
Beth yw Pwmp Gwres? Mae pwmp gwres yn gweithio yn ôl egwyddor debyg iawn i oergell gyffredin am eu bod yn pwmpio gwres o un lleoliad i mewn i un arall. Mae’r ddaear yn cynnal tymheredd cyson o tua 10-12 Celsius tua un metr o dan ein traed. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod gwres o haul yr Haf yn cael ei storio yn y ddaear ac yn cael ei ryddhau’n raddol yn ôl i’r amgylchedd yn ystod cyfnodau oerach. Mae pympiau gwres yn tapio i mewn i’r ynni hwn, gan drosglwyddo’r ynni solar a storiwyd yn y ddaear i ddarparu gwres a dŵr poeth i’r cartref, bron yn yr un modd â sut y mae’ch oergell yn trosglwyddo gwres o du mewn yr oergell ac i mewn i’r ystafell. Ar ddiwedd y tymor gwresogi, mae’r haul yn caniatáu i dymheredd y ddaear adfer eto. Mathau o bympiau gwres Mae tri phrif fath o bwmp gwres yn bodoli:
Mae’r mathau a restrir uchod yn cyfeirio fwy at y math o gasglwr na’r pwmp gwres ei hun, sydd yn ei hanfod yr un peth ar gyfer bob un ohonynt. Mae’r GSHPau yn casglu gwres o’r ddaear naill ai drwy ddolen lorweddol ar y ddaear neu ddyfrdwll fertigol. Sut mae Pwmp Gwres o Ffynhonnell y Ddaear yn gweithio? Mae tair prif elfen i swyddogaeth y pwmp dŵr. Y rhain yw:
Ar gyfer y GSHPau, gall pob cilowat awr o gyfradd yr allbwn angen i fyny at 30-60 metr o bibellau tan y ddaear, yn dibynnu ar amodau’r ddaear, ac mae maint cyffredinol y system yn dibynnu ar eich anghenion gwresogi. Mae perfformiad system y pympiau gwres yn cael ei fesur gan Cyfernod Perfformiad (CoP). Mae’r gymhareb hon yn cymharu mewnbwn yr ynni (trydan i’r cywasgydd) ag allbwn yr ynni (gwres a ellir ei ddefnyddio). Yn sgil natur y cywasgyddion yn y pympiau gwres, maent yn gweithio’n well am gyfnodau gweithredu hir yn hytrach na throi’r swîts ymlaen ac i ffwrdd (cylchred) fel sy’n digwydd yn nodweddiadol er enghraifft gyda boeler nwy sy’n cyddwyso. Felly, mae pympiau gwres yn gweithio’n barhaus hyd at ychydig oriau, gan storio’r gwres yn raddol mewn storfa thermol sy’n barod i’w ddefnyddio pan fo angen gwresogi gofod neu ddŵr. Faint o ynni gallaf ddisgwyl i’r system gynhyrchu? Dylai fod allbwn o 2.5 - 4 uned (CoP = 2.5 – 4) o wres yn cael ei ddychwelyd am bob uned o fewnbwn ynni, yn dibynnu ar natur y math o gasglwr a’r system dosbarthu gwres; a gwresogi o dan y llawr sy’n galluogi’r effeithlonrwydd mwyaf. Y lleiaf yw’r gwahaniaeth rhwng ffynhonnell gwres a system dosbarthu gwres, yr uchaf yw’r CoP, ac o ganlyniad, mae gwresogi o dan y llawr yn fwy effeithiol ar gyfer y dechnoleg hon na gwresogydd sydd wedi ei osod ar y wal wrth iddynt weithredu ar dymheredd is. Dylai system sydd wedi ei gynllunio’n dda ddarparu holl neu bron holl anghenion gwresogi ar gyfer eich cartref, ac yn ymddwyn fel cyn wresogydd ar gyfer dŵr poeth domestig; ni all pympiau gwres dwymo dŵr hyd at y 60 Celsius a argymhellir ar gyfer lladd bacteria niweidiol mewn dŵr yfed. Gellir ychwanegu at dymheredd dŵr poeth domestig drwy wresogydd troch trydan neu boeler eilaidd arall. Beth yw manteision pympiau gwres?
Addasrwydd Mae rhai cartrefi’n fwy addas ar gyfer pympiau gwres nag eraill, ac mae’r amrywiaeth o fathau o gasglwyr yn cynyddu’r nifer o ddewisiadau sydd ar gael. Bydd arolwg safle yn dadlennu’r system fwyaf addas ar gyfer eich anghenion. Mae cartrefi sydd â màs thermol isel yn llai addas i bympiau gwres. Yn ychwanegol, efallai bod angen edrych ar gryfder eich cyflenwad trydan er mwyn sicrhau y gellir ei gymhwyso ar gyfer galw'r system am ynni wrth weithredu. Pan fo cywasgyddion yn switsio ymlaen, maent yn tynnu ar gerrynt trydanol mawr iawn am gyfnod byr o amser, a all fynd y tu hwnt i gynhwysedd eich cyflenwad trydan. Cynnal a chadw Mae pympiau gwres yn gofyn am ychydig o gynnal a chadw yn unig, ar wahân i’r angen i chi edrych ar y system yn flynyddol, ac i beiriannydd edrych ar unrhyw hylif sy’n cylchredeg yn nolen y ddaear bob 3-5 mlynedd. Costau Gosod Gall y rhain amrywio’n sylweddol, yn dibynnu ar leoliad ac anghenion y cwsmer. Bydd gosodiad cyffredin ar gyfer pwmp gwres ffos lorweddol o ffynhonnell y ddaear yn debygol o gostio rhwng £900 a £1400 am bob kW o allbwn, neu £6,000 - £11,500 ar gyfer system ganolig sydd wedi ei gosod yn llawn. Bydd pympiau gwres mwy nag arfer yn cylchdroi rhwng moddau ymlaen ac i ffwrdd yn fwy rheolaidd na system o faint cywir, gan leihau ei effeithlonrwydd ac yn achosi traul ddiangen. |
Support the Eco Centre via SMS
You can now donate quickly and easily using your mobile phone.
Text ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10
to 70070.
Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.
UK tax payers can add Gift Aid too.
News and views

EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js

EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013


Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales
Retweeted • 1 retweet


EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF
• 1 retweet

EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.

EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.
• 1 retweet

EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy

EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.








