Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Ynni Adnewyddadwy :: Technoleg :: Pŵer Hydro



Pŵer Hydro ar Raddfa Fychan PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Tim Brew   
FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 20:51
AddThis Social Bookmark Button
Beth yw Hydro ar Raddfa Fychan?
Mae harneisio pŵer dŵr yn cynrychioli un o’r ynni adnewyddadwy hynaf yn hanes y ddynolryw; yn y lle cyntaf i ddyfrhau tir ac i roi pŵer i felinau am fwy na 2,000 o flynyddoedd, ond yn fwy diweddar i gynhyrchu trydan hefyd. Felly, mae’n dechnoleg aeddfed sydd wedi ei brofi.

System sy’n newid ynni i ddŵr sy’n llifo i mewn i drydan yw pŵer hydro ar raddfa fychan, a elwir yn aml yn ficro hydro, sydd ag allbwn o 100 kW neu lai fel arfer. Mae systemau micro hydro yn wahanol i bŵer hydro ar raddfa fwy am eu bod yn defnyddio cyfanswm llawer is o ddŵr sy’n llifo yn ystod gweithrediad, gan gynhyrchu llai o drydan o ganlyniad.

Er bod y llanw a’r tonnau’n fathau o bŵer hydro (dŵr), cynlluniau yn seiliedig ar y tir yn unig a gyflwynir yn y llawlyfr hwn, h.y. y rhai hynny sy’n defnyddio nentydd neu afonydd.

Defnydd cyffredin o Hydro ar Raddfa Fychan
Diffinnir systemau hydro ar raddfa fychan yn aml mewn dwy ffordd gyffredin; cynlluniau storio neu gynlluniau llif yr afon. Mae’r  cyntaf yn cynnwys cronni nant neu afon gyfan i ddal cyfaint mawr o ddŵr yn nôl, sydd wedyn yn cael ei ryddhau drwy dyrbin, tra bod yr ail yn defnyddio cored i addasu llif nant neu afon gan ddargyfeirio’r dŵr sy’n llifo i dyrbin.

Gallant fod yn systemau annibynnol lle caiff llwyth bŵer yn uniongyrchol neu drwy gronfa fatris, neu wedi ei gysylltu â’r grid lle gellir gwerthu’r trydan a gynhyrchir sydd dros ben i’r grid.

Gallant hefyd gael eu diffinio fel llwythi isel, canolog neu uchel, yn dibynnu ar yr uchder y syrthia’r dŵr. Mae graddfa llwyth a llif y nant yn diffinio pa dyrbin sydd angen: mae angen tyrbin llafn gwthio neu Gaplan ar lwyth isel; croeslif neu Francis ar lwyth canolog; a thyrbinau Pelton (ysgogi) ar lwythi uchel.

Sut mae Hydro ar Raddfa Fychan yn gweithio?
Er mwyn i’r pŵer hydro weithio, rhaid i dŵr sy’n llifo o fan uchel i fan isel gael ei ddargyfeirio trwy dyrbin.

Mae dŵr o afon, nant neu gored/argae yn mynd i mewn i’r mewnbwn ac yn cael ei ddargyfeirio i’r llifddor. Mae hyn wedyn yn sianelu’r dŵr i’r tyrbin sydd wedi ei leoli yn y pwerdy. Mae pwysau a llif y dŵr yn achosi i’r tyrbin gylchdroi ac yn gyrru’r generadur o’r herwydd. Mae’r dŵr yna’n mynd drwy bibell all-lif neu ffrwd isaf, er mwyn ail-gyfuno â chwrs y dŵr.

Pa Gydrannau sy’n Cynnwys Cynllun Hydro ar Raddfa Fychan?
Gall cynlluniau hydro wahaniaethu o safle i safle, fodd bynnag, mae’r cydrannau canlynol yn cynnwys system  nodweddiadol:
  • Mewnbwn: yn aml yn rhan o gored, mae’r mewnbwn yn dargyfeirio llif y dŵr o gwrs dŵr tuag at danc forebay a llifddor. Byddai’r mewnbwn fel arfer yn cynnwys rhyw fath o ffilter pysgod/gweddillion
  • Tanc Forebay: mae hwn yn ddewisol, ac mewn gwirionedd yn darparu cronfa ddŵr bychan i fyffro’r llif drwy’r tyrbin yn ystod cyfradd llif nant eithafol. Gall hwn fod yn addas ar gyfer cynlluniau micro hydro mwy o faint
  • Llifddor: mae’n trosglwyddo ac yn cyflwyno dŵr oddi wrth danc y mewnbwn/forebay i uned y tyrbin sydd wedi ei leoli yn y pwerdy
  • Pwerdy: mae hwn yn cymhwyso’r tyrbin a’r offer cynhyrchu
  • Ffrwd isaf: gelwir hwn hefyd yn all-lif, i gyflwyno dŵr yn ôl i gwrs y dŵr unwaith y mae wedi rhoi ei ynni i’r tyrbin ac wedi gadael y pwerdy
  • Llinell drosglwyddo (uwchben) neu gebl (dan ddaear) i drosglwyddo’r pŵer sydd wedi ei gynhyrchu i ble y’i defnyddir neu gysylltiad â’r grid

Faint o ynni gallaf ddisgwyl i Hydro ar Raddfa Fychan gynhyrchu?
Mae’r ynni sydd ar gael mewn dŵr sy’n llifo yn dibynnu ar gyfaint y dŵr sy’n llifo bob eiliad ac uchder (llwyth) y syrthia’r dŵr. Bydd cyfnewid yr ynni hwn i mewn i drydan yn dibynnu ar effeithlonrwydd cyfunol y cydrannau a restrir uchod; gall effeithlonrwydd cynllun hydro ar raddfa fychan fod rhwng 50-85%.

Gellir cyfrif y pŵer posibl y gellir ei gael o ddŵr sy’n llifo fel a ganlyn:

P = H x Q x g x e

Lle mae:
•    P = pŵer (kW)
•    H = uchder y llif (metrau)
•    Q = cyfradd y llif (metrau ciwbig yr eiliad)
•    g = disgyrchiant cyson (9.81 metr yr eiliad)
•    e = effeithlonrwydd (0.5 – 0.85, h.y. 50% - 85%)

Felly, mae cyfradd llif cyson o 30 litr yr eiliad sy’n syrthio drwy lwyth o 5 metr â phŵer o 1.47 kW. Os yw’n pasio drwy system hydro ag effeithlonrwydd cyffredinol o 60%, gallai 0.883 kW gael ei gynhyrchu, neu gynhyrchiad trydan blynyddol o 7,734 kWh.

Beth yw manteision Hydro ar Raddfa Fychan?
Gellir cael nifer o fanteision o bŵer hydro ar raddfa fychan, gan gynnwys:
•    cynhyrchu trydan yn rhydd o allyriadau
•    cynhyrchu trydan, o bosib, yn gyson drwy bŵer hydro, yn annhebyg i dyrbinau gwynt a PV
•    technoleg ddibynadwy sydd wedi ei hir brofi


Addasrwydd
Er mwyn lleihau effeithiau ecolegol y pŵer hydro, gall fod yn angenrheidiol i ganiatáu bod cyfradd o’r nant/afon yn parhau i lifo ar hyd cwrs naturiol y dŵr. Bydd manylion ar y meini prawf ar gyfer hyn mewn Trwydded Echdynnu Dŵr, ac mae’n rhaid cael hon oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd cyn dechrau unrhyw waith ar gynllun pŵer hydro o unrhyw faint neu yn unrhyw safle.

Cynnal a Chadw
Gan ei fod yn beiriant mecanyddol, dylai’r arfer o gynnal a chadw ddigwydd yn gyfnodol er mwyn sicrhau bod y darnau sy’n symud yn gweithio’n gywir ac yn effeithlon. Fel arall, mae’r cynlluniau pŵer hydro yn weddol i’w cynnal a chadw.

Costau Gosod
Gall nifer o ffactorau effeithio ar y gost o osod cynllun pŵer hydro, a gall amrywio’n sylweddol o un safle i’r llall. Mae hyn yn cynnwys lledaeniad y gwaith sifil sydd ei angen, hygyrchedd y safle a ffactorau amgylcheddol eraill sydd angen cyfeirio atynt.
Gallai costau gosod ar gyfer system llwyth isel (llai na 20 metr), lle bo llyn neu gored eisoes yn bodoli, gostio rhwng £3,000 a £4,000 y kW i fyny at 10kW. Mae cynlluniau mwy o faint yn tueddu i gostio llai am bob kW.
Bydd system llwyth canolig (20 – 100 metr) angen tyrbin gwahanol a llai o bosibl ar gyfer allbwn a roddir sy’n lleihau’r costau am bob kW i tua £2,500. Fodd bynnag, gallai’r gwaith sifil fod yn fwy ymglymedig, gan gynyddu’r costau cysylltiol.
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales Energy enterprise zone for Pembs. http://t.co/qB7ZkSSN Let's hope it includes green, clean and low carbon #bigopportunity

• 1 retweet

CynnalCymru
CynnalCymru The first Climate Change Commission report is launched today, read about it here http://t.co/pcuqjaW3 #ClimateChangeWales

Retweeted • 1 retweet

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales Great fun with Tenby Juniors and Ysgol Croesgoch at the start of their Operation Energy. Big savings made already...

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Part 1 RT @jrf_uk: Helping residents to help themselves can combat fuel poverty http://t.co/1PFzsYxj via @guardian #ukpoverty #fuelpoverty
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - First report on UK climate impact http://t.co/syeloue8
EcoCentreWales
EcoCentreWales Friends of the Earth - Why the Green Deal will fail on fuel poverty: http://t.co/moTpuyFd
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @WWFCymru: Pls RT: Could you lead #EarthHour? A Welsh community group could win £1000 http://t.co/66o3JMzY #lightsoutwales
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @JakeHollyfield: Yes, yes, yes! last three paras imp. @AmolRajan in the Indie: What's Cameron's Big Society? http://t.co/oVll2Phg
EcoCentreWales
EcoCentreWales Michael Mann: The climate scientist who the deniers have in their sights - Profiles - People - The Independent http://t.co/hRenpzzO
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Wind farm opponents in mid Wales set out their fears http://t.co/he0xSgs9