Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Ynni Adnewyddadwy :: Technoleg :: Gwerthu nôl i’r Grid



Gwerthu nôl i’r Grid PDF Argraffu Ebost newid
Ysgrifennwyd gan Tim Brew   
FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 21:27
AddThis Social Bookmark Button
D.S. Gall y wybodaeth newid o ganlyniad i newid mewn prisiau a deddfwriaeth.

Rhaid bod gennych:

•Gyflenwad trydan wrth y cwmni rydych am werthu trydan yn ôl iddo (gan amlaf).
•Generadur adnewyddu wedi’i osod gyda’i eneradu blynyddol yn fwy na 500kWh (gall tyrbin gwynt domestig 1.4kW sicrhau cynnyrch blynyddol o 2000kWh) ac wedi’i achredu gan OFGEM i dderbyno  TYA/ROC (Tystysgrifau Ymrwymiad Adnewyddu/Renewable Obligation Certificates) Gweler www.ofgem.gov.uk   
•Cydsyniad gan eich cwmni cyflenwi lleol ar gyfer cysylltu’r generadur adnewyddu â’r grid cenedlaethol.
•Mesurydd generadu crynswth wedi’i gymeradwyo gan OFGEM sydd yn mesur holl gynnyrch eich system,
•Mesurydd allforio i gofnodi’r cyfanswm o drydan rydych yn ei fwydo i’r rhwydwaith trydan. (£75 ynghyd â THAW)
•Gwrthdröydd arbennig (a elwir yn Windy Boy) i gydamseru’r foltedd amrywiol o’ch tyrbin gwynt i’r cyflenwad grid cyson. Caiff hwn ei raglenni’n unigol ar y safle i optimeiddio’r pŵer allforir i’r grid ac i sicrhau diogelwch y rhwydwaith trwy ddatgysylltu petai’r grid yn torri lawr.

ER MWYN COFRESTRU AR GYFER TYA galwch OFGEM 0207 901 7000. Gall Tradelink Solutions 01923 713840 gynnig peth cymorth ar sut i gofrestru.
Dyma restr o gwmnïau ynni sydd yn cynnig Tariff Gwyrdd yn yr ardal hon a fydd yn barod i brynu trydan nôl:

ECOTRYDAN CYF.
Bydd Ecotrydan yn talu 4.5c am bob uned o drydan fyddwch yn ei eneradu hyd yn oed os byddwch yn ei ddefnyddio ar y safle (tua 1,000 o unedau’r flwyddyn ar gyfer gosodiadau generadumicro domestig ar gyfartaledd). Yn gyfnewid byddwch yn rhoi’r TYA a roddir i chi’n flynyddol gan OFGEM i Ecotrydan.
Bydd angen i chi hysbysu Ecotrydan beth yw darlleniad eich mesurydd generadu yn flynyddol a defnyddir hwnnw wedyn yn gredyd ar eich bil am y cyfanswm trydan fyddwch wedi’i greu.

YNNI GWYRDD (DG) Plc
Os ydych yn generadu llai na 2,000kwh fesul blwyddyn, yna, y dewis gorau yw gwerthu eich TYA i Ynni Gwyrdd am bris o 3c fesul kWh TYA.
I wneud hyn ni fydd angen dim ar wahân i fesurydd cyfanswm generadu.
Os ydych yn generadu dros 2,000kWh gallech werthu’r trydan na fyddech ei angen nôl i Ynni Gwyrdd am 4c fesul kWh a 3c fesul kWh TYA. Bydd angen i chi hefyd dalu 15c fesul diwrnod o dâl sefydlog i’r Grid Cenedlaethol a bydd angen mesurydd allforio yn ogystal â mesurydd generadu arnoch. Un math o fesurydd allforio ar gyfer generadur bach yw’r mesurydd NHH (non-half hourly) sy’n costio tua £75 fesul blwyddyn, ynghyd â THAW, i’w weithredu
Galwch Ynni Gwyrdd DG ar 08454569550 i gael contract 'Gwerthwch eich ynni i ni'.
D.S. Does dim rhaid i chi brynu eich trydan ganddyn nhw.

YNNI DA CYF
Ar hyn o bryd mae Ynni Da yn talu 4.5c am bob uned sy’n cael ei chreu hyd yn oed os caiff ei defnyddio ar y safle. Yn gyfnewid byddan nhw’n hawlio’r TYA fyddwch yn ei gael gan y llywodraeth am eneradu trydan adnewyddadwy. Mae’r holl drydan fyddwch yn ei fewnforio wrth y cwmni yn 100% adnewyddadwy.
Os am fod yn eneradur cartref ar gyfer Ynni Da, yna, ffoniwch 0845 456 1640 neu e-bostiwch homegen@good-energy.co.uk

SUDD NPOWER
Mae Sudd Npower yn cyfateb i’r union nifer o unedau fyddwch chi’n eu defnyddio ac yn bwydo’r union un swm wedi’i greu o ffynonellau adnewyddadwy i’r Grid Cenedlaethol.
Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn talu’r un gyfradd am yr unedau rydych chi’n eu hallforio a’r unedau rydych chi’n ei mewnforio wrth y cwmni. Mae’n rhaid bod gennych fesurydd allforio wedi’i osod.
Mae Sudd Npower hefyd yn prynu nôl TYA yn ôl cyfradd o £33.24 fesul Mwh.
Ffoniwch 0800 3162610 neu cysylltwch â 01905 34 06 46 ar gyfer cwsmeriaid generadu.

YNNI EDF
Mae EDF yn cynnig dau ddewis:
•Un heb fesurydd yn talu cyfradd unradd o £10 fesul kW yn flynyddol o dyrbin wedi’i osod
•Mesurydd wedi’i osod yn talu 7.4c am bob uned o drydan a allforir i’r Grid Cenedlaethol Tel.  07711023227

Mae’r TYA ar wahân ac yn ychwanegol i hyn a medrwch ddefnyddio cwmni megis Tradelink Solutions (01923 28 55 83) i’w gwerthu nhw.
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013
EcoCentreWales
EcoCentreWales @UnitedWelsh Thanks for the #FF

in reply to UnitedWelsh

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Renewables 'help jobs and growth' http://t.co/14diEl88

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.
EcoCentreWales
EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.