You are here:
| Biomas |
|
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Tim Brew |
| FRIDAY, 20 FEBRUARY 2009 20:48 |
|
Beth yw biomas? Mater byw yw biomas. Mae’n fater byw diweddar y gallwn ei losgi’n hawdd yn nhermau ynni adnewyddadwy domestig, megis pren neu ddeunydd planhigion naill ai yn ei gyflwr crai, ar ôl ychydig o brosesu'n unig (e.e. boncyffion) neu ar ôl prosesu mwy datblygedig (e.e. rhisgl pren neu ronynnau). Mae angen heulwen ar gyfer ynni ar fiomas i dyfu ac felly gellir meddwl amdano fel ffurf arall o ynni adnewyddadwy solar anuniongyrchol sydd â’r fantais o storio’n gyfleus. Dylid ystyried biomas fel adnodd ynni sydd ‘bron’ yn garbon niwtral. Nid yw biomas sy’n llosgi yn rhyddhau mwy o garbon deuocsid na beth a aed o’r atmosffer pan oedd yn tyfu, ond mae rhai allyriadau wrth gludo a phrosesu’r adnodd hwn, gan dynnu sylw at angenrheidrwydd dod o hyd i danwydd biomas o ffynonellau lleol a chynaliadwy. Yn nodweddiadol, llosgir pren i ryddhau gwres ar gyfer gwresogi gofod ac at ddiben dŵr poeth yn y cartref. Er mwyn sicrhau bod biomas sy’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon yn cael ei wneud yn gynaliadwy, mae’n bwysig peidio â gwastraffu ynni er mwyn atal biomas rhag cael ei ddefnyddio’n gyflymach nag yw’n cael ei ailgyflenwi. Mathau o dechnoleg biomas Gellir disgrifio systemau gwresogi biomas yn ôl y math o borthiant sydd angen arno: Porthiant:
Sut mae systemau biomas yn gweithio? Mae systemau biomas yn gweithredu’n eithaf syml, gyda llosgi deunydd biomas er mwyn darparu gwresogi gofod a/neu ddŵr poeth domestig. Mae tanwydd yn cael ei lwytho i mewn i gynhwysydd neu gan law ar gyfer rhai systemau boncyff ac yn cael ei ryddhau mewn ffordd wedi ei reoli i mewn i’r siambr dân. Caiff allbwn y gwres ei reoleiddio drwy’r ffan, gan alluogi mwy o aer i fod ar gael i’r deunydd hylosgi ar gyfer tymheredd uwch a fflam losgi cyflymach pan fo angen. Nwy CO2 a llwch yw prif gynnyrch gwastraff o fiomas sy’n cael ei losgi. Mae angen dilwyrlosgi cyfnodol ar systemau gwresogi biomas, gyda’r cyfnod yn dibynnu ar ba system sy’n cael ei defnyddio. Gall allbwn y gwres fod ar ffurf naill ai aer twym a chwythir i mewn i’r ystafell (ac yn pelydru o’r ddyfais), neu drwy system wresogi ganolig confensiynol. Yn yr achos hwn, ac ar gyfer dŵr poeth domestig, bydd boeler cefn yn ychwanegiad hanfodol i storio gwres oddi wrth y pren sy’n llosgi. Mae systemau biomas yn gweithio orau pan maent yn llosgi’n barhaus am nifer o oriau ac yn storio’r gwres a gynhyrchir yn y storfa thermol i’w defnyddio drwy’r dydd. Pa gydrannau sy’n cynnwys gwresogi biomas?
Faint o ynni gallaf ddisgwyl i’r system gwresogi biomas gynhyrchu? Gall gofynion gwresogi gofod a dŵr poeth domestig gynrychioli cymaint â 70-80% o ddefnydd ynni blynyddol eich cartref. Felly, gall system sydd wedi ei chynllunio a’i gosod yn dda allu darparu’r cyfradd hwn o anghenion ynni eich cartref. Beth yw manteision biomas?
Addasrwydd Gellir ymgorffori systemau gwresogi biomas fel arfer i mewn i systemau gwresogi presennol. Dylai eich gosodwr cofrestredig HETAS fod yn gallu trafod y system sydd fwyaf addas i gwrdd â’ch anghenion. Cynnal a chadw Mae systemau biomas yn gofyn am roi tanwydd a dilwyrlosgi cyfnodol. Dylid arolygu’r system bob blwyddyn neu amryw o flynyddoedd fel bo angen gan yr offer a osodwyd |
Support the Eco Centre via SMS
You can now donate quickly and easily using your mobile phone.
Text ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10
to 70070.
Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.
UK tax payers can add Gift Aid too.
News and views

EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js

EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013


Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales
Retweeted • 1 retweet


EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF
• 1 retweet

EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.

EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.
• 1 retweet

EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy

EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.








