Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Ynni Adnewyddadwy :: Prosiectau :: Gorsaf Bŵer y Bobl



Gorsaf Bŵer y Bobl PDF Argraffu Ebost newid
Ysgrifennwyd gan Jake Hollyfield   
TUESDAY, 30 JUNE 2009 10:58
AddThis Social Bookmark Button

Mae hwn yn brosiect newydd cyffrous sydd wedi’i rangyllido gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a reolir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd Gorsaf Bŵer y Bobl (GBB) yn brosiect tair blynedd er mwyn sefydlu Cwmnïau Cyflenwi Ynni Cymunedol (CCYC) a gosod technoleg ynni adnewyddadwy cymunedol mewn pedair cymuned o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I lwyddo yn hyn o beth bydd y prosiect yn clustnodi cymunedau penodol ac yna’n gweithio gyda grwpiau cymunedol i annog a hwyluso eu trawsnewid tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, gan sicrhau y byddan nhw wedi’u paratoi ar gyfer effaith newid hinsawdd ac anawsterau cyflenwi ynni yn y dyfodol.

Bydd y trawsnewid hwn, er yn unigryw i anghenion unigol pob cymuned fydd yn cymryd rhan, yn cadw at thema gyffredin ymhob un o’r ardaloedd fydd yn elwa o’r rhaglen arfaethedig.

Bydd agwedd gynhwysol ac ymarferol Gorsaf Bŵer y Bobl yn cynnwys y canlynol o fewn pob cymuned benodol:

Gweithredu gosodiadau ynni adnewyddadwy cymunedol. Dyma fydd prif amcan GBB; gosodiad ymarferol a phriodol o ran maint a fydd yn darparu buddiant uniongyrchol i’r cymunedau fydd yn cymryd rhan. Wrth gyflenwi’r cam sylfaenol hwn bydd y prosiect hefyd maes o law yn darparu:

a. Datrysiadau: asesiad ynni adnewyddadwy ar draws y gymuned a gweithredu
    i. Effeithlonrwydd ynni: lleihau’r galw am ynni yn ei darddle trwy gymorth a chyngor ar ynysu a theclynnau effeithiol
    ii. Astudiaeth ddichonolrwydd: darparu arbenigedd a chymorth grant ar gyfer astudio mesurau adnewyddadwy priodol - daw cymorth grant o ganlyniad i sicrhau arian wrth gyrff cyllido eraill megis Cronfa Loteri Fawr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Lleol a chwmnïau gwasanaethau cyhoeddus.
    iii. Rheolaeth gymunedol: cynorthwyo cymunedau i sefydlu eu Cwmnïau Cyflenwi Ynni (CCY) eu hunain

b. Meincnodi: creu ôl-troed ecolegol i’r gymuned (dŵr, carbon ac ynni) gan ddefnyddio REAP Petite o’r SIE, neu feddalwedd modelu priodol arall
    i. Mesur: defnyddio canllawiau cost cyfredol a gosod gwybodaeth ar fasdata ar-lein os yn bosib
    ii. Cwblhau’r darlun: monitro’r adnewyddiadau sydd eisoes wedi’u gosod
    iii. Sefydlu blogiau er mwyn trafod arbed ynni, ac ati
    iv. Darparu hyfforddiant sylfaenol ynghylch ynni ac effeithlonrwydd ynni yn ogystal â chost cyfarpar cyfredol

c. Codi ymwybyddiaeth ac addysg: canolbwyntio ar sgyrsiau cymunedol, digwyddiadau, achlysuron
    i. Nodi problemau a datrysiadau: dadleuon cyhoeddus a seminarau
    ii. Sgyrsiau: siaradwyr allanol a siaradwyr CEGC
 
Mae gan y rhaglen ei gwefan ei hun lle fyddwn yn cofnodi cynnydd ac yn cyflwyno llawer o offer newydd i gynorthwyo cymunedau yng Nghymru i fod yn rhan o Orsaf Bŵer y Bobl .

LAST_UPDATED2
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013
EcoCentreWales
EcoCentreWales @UnitedWelsh Thanks for the #FF

in reply to UnitedWelsh

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Renewables 'help jobs and growth' http://t.co/14diEl88

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.
EcoCentreWales
EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.