Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Amdanom Ni :: Llwyddiannau Canolfan ECO



ECO Centre achievements
Llwyddiannau PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Jake Hollyfield   
FRIDAY, 13 FEBRUARY 2009 15:41
AddThis Social Bookmark Button
29 mlynedd o Bryder Newid Hinsawdd
Mae’r rhestr o lwyddiannau’r Ganolfan ECO yn drawiadol ac yn ymestyn nôl i 1980.
•    Yn 1980 trefnodd y Grŵp y Sioe Ynni Gogledd Sir Benfro gyntaf yn Nhrefdraeth. Trefnwyd Sioeau Ynni eraill wedyn yn 1984 a 1988.
•    Ym mis Hydref 1980 dechreuodd y Grŵp ei gynllun prynu deunydd ynysu llofftydd ar raddfa fawr ac yna gwerthu rholiau o Rockwool i aelodau am brisiau gostyngol.
•    Wrth ymateb i bryder gwirioneddol y cyhoedd yn 1982 sefydlodd y Grŵp gynhadledd i drafod problemau tlodi tanwydd a hypothermia, gan awgrymu datrysiadau lleol i’r problemau.
•    Bob gaeaf trefnodd y Grŵp sioeau ffilm, nosweithiau trafod, sgyrsiau am rym y gwynt, grym dŵr, cynhesu solar, ac ati, gweithdai ar reoli coetiroedd, ymweliadau safle ac amrywiaeth o nosweithiau cymdeithasol ar gyfer yr aelodau.
•    Yn y blynyddoedd cynnar roedd y Grŵp yn cynnig ynysu llofftydd am ddim ynghyd â deunyddiau atal drafft, ac ati, i bobl oedrannus ac o dan anfantais oedd yn byw yn lleol.
•    Yn 1983 cododd aelodau’r Grŵp y cyllid angenrheidiol i gyflawni prosiect ynysu yn Neuadd Goffa Trefdraeth sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau cymunedol.
•    Yn 1984 agorodd y Grŵp y Banc Boteli cyntaf yng ngorllewin Cymru ac ers hynny bu’n allweddol o ran annog awdurdodau lleol i sefydlu rhai eraill yn Sir Benfro.
•    Yn 1985 lansiodd y Grŵp ei ‘Fan Ynni’ gyntaf sef carafan yn llawn o gyfarpar arbed ac adnewyddu ynni megis paneli solar, generaduron gwynt a ffotofoltaidd. Y tu fewn roedd yna gasgliad helaeth o lyfrau, taflenni, posteri ac ati am bynciau’n ymwneud ag ynni. Teithiodd y garafan ar draws gorllewin Cymru yn rhoi cyngor am ynni i’r cyhoedd am ddim.
•    Yn 1985, fel rhan o’i Ymgyrch Achub Coed, prynodd y Grŵp lwyth 20 tunnell o frics glo biodanwydd ar ran ei aelodau ac o ganlyniad perswadiwyd cyflenwyr lleol i gadw’r brics glo i’w gwerthu ledled yr ardal.
•    Paratodd aelodau’r Grŵp ddau wiriad ynni yn Nhrefdraeth. Rhoddwyd croeso brwd i’r ail un ar sail ei ddulliau dadansoddi a’i argymhellion pendant.
•    Yn 1989 cynyddodd y Grŵp ei ymwneud â gweithgareddau ailgylchu, cychwynodd wasanaeth casglu papur a hefyd casglu ffoil aliminiwm, jariau jam a deunyddiau eraill.
•    Tynnodd y Grŵp sylw at y cysylltiadau rhwng y defnydd lleol o drydan a phroblemau bydeang yn ymwneud â glaw asid a’r effaith tŷ gwydr. Cam ymarferol yw gwerthu bylbiau golau ynni isel i aelodau am brisiau gostyngol.
•    Cyflwynodd y Grŵp nifer o argymhellion i Gynghorau Sir Penfro a Dyfed mewn ymgais i fireinio geiriad eu Nodiadau Canllaw Cynllunio Ychwanegol yn ymwneud â datblygiadau ynni gwynt.
•    Rhwng 1994-1997 cyflwynodd y Grŵp dystiolaeth manwl i’r awdurdodau lleol yn ymwneud â pholisiau ynni adnewyddadwy yn y Cynlluniau Lleol drafft.
•    Dadleuodd y Grŵp fod angen i bolisïau roi anogaeth arbennig i ddatblygiadau bychain ynni-effeithlon.
•    Ym mis Rhagfyr 1994 sefydlodd y Grŵp becyn ‘Ynni ac Amgylchedd’ hynod o arloesol ar gyfer Ysgol Bro Ingli yn Nhrefdraeth, yn cynnwys gorsaf dywydd otomatig, monitorau amgylchedd, mesuryddion ynni, a chyfarpar ynni adnewyddadwy, oll wedi’u cysylltu â chyfrifiadur yr ysgol. Roeddem wrth ein bodd pan enillodd y prosiect hwn wobr Tywysog Cymru yn 1995.
•    Yn 1996 a 1997 trefnwyd cystadleuaeth Her Ynni llwyddiannus iawn gan y Ganolfan Eco ar gyfer ysgolion lleol. Bydd yn ddigwyddiad blynyddol.
•    Yn 1997 sefydlodd y Ganolfan ECO yr orsaf bwer leiaf yn y Deyrnas Gyfunol yn allforio trydan o’i osodiad ffotofoltaidd i’r grid.
•    Yn 1997 denodd beiseicl solar y Ganolfan Eco sylw’r cyfryngau ar draws y byd a gwelwyd erthyglau mewn nifer o bapurau a chyfweliadau diri ar deledu a radio.
•    Daeth y Tŷ ECO a’r Ganolfan Ymwelwyr yn gynyddol boblogaidd ymhlith ymwelwyr a grwpiau ysgol yn ymddiddori mewn ecoleg ac ynni adnewyddadwy.
•    1998/1999 Y Ganolfan Gynghori yn cyflenwi gwasanaeth cynghori i’r Gymru wledig benbaladr a chael cefnogaeth gan Gyngor Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Penfro.
•    1998 Y Ganolfan ECO yn cyhoeddi astudiaeth ddichonolrwydd ar bwnc eco-dwristiaeth yn Sir Benfro.
1999 - 2002
•    1999 Y Ganolfan ECO yn bartner mewn rhaglen a gyllidwyd gan Interreg i ddod ag ymwybyddiaeth ynni i’r gymuned, ac yn rhoi cyflwyniadau i ysgolion yng Ngorllewin Cymru a De Iwerddon.
•    1999 Y Ganolfan ECO yn trefnu cynllun llwyddiannus lleihau gwastraff yn Sir Benfro trwy fargeinio contract prynu wmbreth o finiau compost.
•    1999 Y Ganolfan Gynghori Effeithlonrwydd Ynni (CCEY) yn sicrhau bod lampau fflworoleuol cryno – CFLs - ar gael i bawb yn Nhrefdraeth ar gost isel mewn ymgais i leihau biliau trydan ac i wneud arbediad cymunedol o ran allyriadau carbon deuocsid.
•    1999 Cyflenwi cyflwyniadau ysgol am ynni adnewyddadwy a chadwraeth ynni i holl ysgolion cynradd Sir Benfro.
•    Y GCEY yn datblygu offer ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Cadwraeth Ynni Cartref, deddf statudol sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol i leihau’r defnydd o ynni.
•    Chwaraeodd y Ganolfan ECO ran amlwg yn natblygiad Asiantaeth Ynni ARBED 2 Ewropeaidd gan Gyngor Sir Penfro a chynrychiolwyr busnesau lleol. Sefydlwyd Asiantaeth Ynni Sir Benfro yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2000, a chanolbwyntia ar feysydd sydd wedi’u hanwybyddu gan y Ganolfan ECO megis arbed ynni yn y sector busnes a datrysiadau cludiant glanach.
•    Y GCEY yn cynnal llawer mwy o waith estyn allan gyda chymunedau trwy brosiectau megis REACT (timau gweithredu cymunedol ynghylch ynni gwledig) a chynlluniau hyrwyddo i godi proffil effeithlonrwydd ynni ac annog preswylwyr i weithredu.
•    Y GCEY yn datblygu swyddfa yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth â’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (CGE/EST) a Chanolfan Cynghori Effeithlonrwydd Ynni Glannau Mersi.
•    2001 Y Ganolfan ECO yn darprau CD ROM addysgol rhyngweithiol yn ddwyieithog am Arllwysiad Olew’r Sea Empress mewn partneriaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Cafodd ei ddosbarthu i bob ysgol gynradd yng Nghymru.  Bwriedir lansio ail CD ar ‘Ynni a’r Amgylchedd, Eich Byd: Eich Dewis’ ar gyfer ysgolion uwchradd ym mis Mai 2003.
•    Y GCEY yn ennill cytundeb i ddarparu’r dyletswyddau ysgrifenyddol ar gyfer Fforwm DCYC/HECA Cymru.
•    Y Ganolfan ECO yn datblygu’r rhaglen Datblygiad Amgylcheddol ac Ynni Cynaliadwy (DAYC/SEED), gwasanaeth ymgynghori cost isel o gynghori safle penodol fel modd o gynyddu’n ddirfawr pob datblygiad amgylcheddol ac ynni glân yn Sir Benfro. Mae hwn ar gael i sefydliadau cymunedol, ysgolion, busnesau bychain gan gynnwys ffermydd a gweithredwyr twristiaeth ac unigolion preifat. Rhoddir cyngor ar y grantiau sydd ar gael ynghyd â manylion cyswllt cwmniau gosod lleol sy wedi’u cymeradwyo, ac fe fydd eu gwaith yn cael ei fonitro.
•    Mae’r Ganolfan ECO wedi datblygu cyfres o benwythnosau gweithgareddau amgylcheddol ar themau ynni a materion amgylcheddol mewn partneriaeth â Hostel Ieuenctid Trefdraeth. Yn eu plith mae cyflwyniadau sy’n defnyddio’r cyfleusterau a’r dechnoleg yn y Ganolfan ECO ynghyd ag ymweliadau â safleoedd lleol o ddiddordeb yn cynnwys Maenor Sgoltwn, cynllun trydan dŵr Llys-y-frân, fferm wynt Dyffryn Brodyn, Castell Henllys (byw heb drydan) ac ati.
2002 - 2003
•    Dechrau’r prosiect ECOBUILD mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro. Cwrs sylfaen 'Cynaladwyedd yn yr Amgylchedd Adeileddol' wedi’i gyllido gan y GCA.
•    Sicrhau’r cytundeb i arbrofi’r Gwasanaeth Cynghori Ynni Adnewyddadwy ar ran yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (YAY/EST) ar gyfer Cymru gyfan.
•    O dan y Gwasanaeth Cynghori Ynni Adnewyddadwy (GCYA/REAS) cydsefydlu REAL Cymru, rhwydwaith Cymru gyfan o gyrff cynghori ynghylch ynni adnewyddadwy.

 
2003
•    Uned Arddangos Mudol Ynni Adnewyddadwy wedi’i chwblhau, dioch i grant o £20K wrth roddwr anhysbys. Darparwyd peth cyllid ar gyfer costau cynnal a chadw gan Gronfa Datblygu Cynaladwyedd (GDC) a pheth cyfalaf gan PAVS. Lansiwyd yr uned yn Ysgol Sageston gyda Chris Gwyther AC a Nick Ainger AS. Fe’i defnyddir mewn sioeau ysgol, marchnadoedd ffermwyr ac ati.
•    'Energy for Tomorrow - Ynni ar gyfer Yfory' – prosiect o bwys wedi’i gyllido’n llawn i hyrwyddo gan lwyddo i osod chwech teclyn ar gyfer creu ynni adnewyddadwy ymhlith cymunedau yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.
•    SCOPE – prosiect wedi’i gyllido gan INTERREG i ddatblygu’r tyrbein gwynt masnachol ddichonadwy cyntaf yn Sir Benfro sy’n rhannol yn eiddo i’r gymuned.
•    'Cartrefi Cysurus' – cynllun effeithlonrwydd ynni wedi’i baratoi ar gyfer tlodion tanwydd wedi’i gyllido gan Npower ac yn weithredol yng Ngheredigion. Darparir amrediad cyflawn o gefnogaeth a chysylltiadau gyda mudiadau allweddol er mwyn galluogi tlodion tanwydd i gefnu ar eu hamgylchiadau.
•    Cyllido CCEY Gogledd Cymru i gynnal 'Iechyd Trwy Gynhesrwydd’ yn Wrecsam.
•    Cyllido CCEYGC i ddarparu gwasanaeth cynghori trwy gyfrwng y Gymraeg i ScottishPower.
•    'Peilot Cartrefi Mudol' - CCEY yn cymryd rhan mewn cynllun arloesol a gyllidir gan Gyngor Sir Powys i werthuso’r fantais o roi cyngor i berchnogion cartrefi mudol.
2004
•    Cyllid wrth GDC, Bwrdd Croeso ac Enfys yn sicrhau adnewyddiad a staffio’r Ganolfan Wybodaeth am ddwy flynedd. Penodi dau aelod o staff i sicrhau fod y Ganolfan wybodaeth ar ei newydd wedd yn adennill ei le fel prif atyniad ac adnodd amgylchedd ac ynn i Gorllewin Cymru.
•    Dylunio logo newydd sy’n cynrychioli mewn modd tipyn cliriach beth yn union yw hanfod y Ganolfan ECO. 'Ynni, Amgylchedd, Addysg' – (Energy, Environment, Education) E3.
2005
•    2005 dathlu chwarter canrif ers sefydlu Canolfan ECO Gorllewin Cymru
•    Adroddiad blynyddol y llynedd yn cael canmoliaeth arbennig gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ei ddyluniad dwyieithog.
•    Cynnal wythnos o weithgareddau i ddynodi’r chwarter canrif. Yr uchafbwynt oedd darlith gyda’r nos gan Syr John Houghton FRCS CBE, cyn bennaeth Swyddfa’r Met, cyn gadeirydd Panel Asesiad Gwyddonol yr IPCC. Uchafbwyntiau eraill oedd dangosiad cyntaf ffilm fer am farn lleol ynghylch newid hinsawdd; taith o amgylch safleoedd ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro, aduniad staff ac Ymddiriedolwyr, yn ogystal â gweithgareddau eraill.
•    Ail gymal Ynni ar gyfer Yfory  - Gweithredu Cynaliadwy ar gyfer Adfer a Hyfforddiant (GCAH/SART) – yn cael cyllid INTERREG. £100,000 dros ddwy flynedd i sicrhau datblygu rhai prosiectau adnewyddadwy cymunedol
•    CCEYGC yn llwyddiannus yn ei gais i ddarparu canolfan cynghori ynni canol y dref ar gyfer Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam. Cytundeb gwerth £90,000 dros dair blynedd.
•    Y Ganolfan Wybodaeth ar ei newydd wedd yn cael ei hagor yn swyddogol fel rhan o’r Dathliadau Arian gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru.
•    Canslo GCAH am fod y partneriaid Gwyddelig wedi tynnu mas o’r prosiect.
2006
•    Cynhaliwyd diwrnod 3Rs ym mis Ionawr i achub, adnewyddu ac ailgylchu offer trydanol, ffons mudol, cardiau nadolig, bikes4africa a choed Nadolig.
•    Y Ganolfan ECO yn cydlynu prosiectau a gyllidwyd gan GDC Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddarparu grant 50% ar gyfer addasu injans disel i ddefnyddio olew llysiau.
•    Gŵyl Wyddoniaeth Darwin yn rhoi contract i Ganolfan ECO Gorllewin Cymru i gyflwyno addysg amgylcheddol trwy’r DG.
•    YAY yn rhoi contract i GEGC i redeg Rhaglen Cefnogi Ynni Lleol yng Nghanolbarth a De Orllewin Cymru.
•    Gwobr Bwrdd yr Iaith Gymraeg i bawb oedd yn rhan o’r fenter – Zodshop, Vegoil Motoring a CEGC – gwobr am y dyluniad gorau yn y categori Amgylcheddol am y daflen wybodaeth Vegoil.
•    TYF Cyf yn rhoi cyfraniad o £10,000 i GEGC o dan y cynllun ‘1% i’r Blaned.
•    Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn dyfarnu £70,000 i GEGC ar gyfer y rhaglen addysg Newid Hinsawdd Cymru.
•    CEGC yn ennill y contract i ddarparu gwasanaethau i Gyngor Sir Penfro a’r cynllun Cynllun Ailgylchu Strategol (CAS/SRS). Creu taflenni ffeithiau, paratoi hyfforddiant a deunydd addysgu ar gyfer hyrwyddo lleihau gwastraff yn y sir.
2007
•    Cafwyd ail gyfraniad o £10,000 gan TYF Cyf o dan y cynllun 1% ar gyfer y Blaned.
•    Cafwyd cyllid i ddarparu gwasanaeth GCYA-Sir Benfro, gwasanaeth ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro a thu hwnt. Fe’i cyllidwyd gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn. Cyhoeddwyd hyn ym mis Mehefin.
•    Ffurfiodd y Ganolfan ECO gonsortiwm gydag Asiantaeth Ynni De Ddwyrain Cymru er mwyn cynnig am y contract i redeg y Ganolfan Gynghori Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer Cymru. Dyfarnwyd hwn ym mis Hydref.
•    Lansio Newid Hinsawdd Cymru ym mis Rhagfyr 2007
2008
•     Trefnwyd cyfres o sioeau lleihau sbwriel o amgylch y sir o dan nawdd y prosiect CAS. Roedd yn estyniad o’r diwrnod 3R’s llwyddiannus a gynhaliwyd yn 2007.
•    ‘Rhoi Grym i Chi Eich Hun’ – cyhoeddwyd canllaw ynghylch ynni adnewyddadwy i breswylwyr ym mis Mai wedi’i gyllido o dan y prosiect GCYA.
•    Galluogwyd ni trwy gyllid a gafwyd wrth Ymddiriedolaeth Rita Lela Howard i drefnu prosiect addysg celf o dan yr enw CLIMART. Roedd ysgolion lleol yn elwa o bresenoldeb arlunwyr a beirdd lleol dros gyfnod o wythnos yn cynorthwyo i greu darn o gelfyddyd sy’n crynhoi eu gweithgareddau a’u teimladau ynghylch newid hinsawdd a chynaladwyedd.
•    Daeth y contract YAY a roddwyd yn 2008 i ben a rhoddwyd contract llai i’r Ganolfan ECO ym mis Mehefin 2008. Cafodd achlysuron estyn allan, cefnogaeth i lywodraeth leol a chymunedau carbon isel eu cyllido tan fis Mawrth 2009.
•    Llwyddodd yr Adran Addysg i sicrhau contract wrth Cadw Cymru’n Daclus i adolygu’r deunyddiau oedd mewn bodolaeth ynghylch Addysg Newid Hinsawdd.
•    Cafodd logo newydd, sy’n mynd nôl i wreiddiau’r Ganolfan ECO, ei gwblhau ym mis Rhagfyr.
2009
•    Ym mis Mai trefnwyd y gynhadledd ryngwladol gyntaf yn y DG ar Feed-In Tariff, oedd yn edrych ar gyfleon a goblygiadau o ran cynhyrchwyr ar raddfa fechan yng Nghymru.
•    Cyllidwyd Gorsaf Bŵer y Bobl gan y Gronfa Datblygu Cynaladwy. Bydd y prosiect yn galluogi o leiaf un gymuned yn y Parc Cenedlaethol i ddatblygu gosodiad ynni adnewyddadwy ymarferol o faint priodol.
•    Ym mis Awst adfywiwyd ein haelodaeth er mwyn cynyddu nifer tanysgrifwyr y Ganolfan ECO. Gwnaed hyn er mwyn delio â diffyg mewn cyllido a arweiniodd at gau’r ganolfan ymwelwyr arloesol.
•    Bu rhaid diswyddo tri aelod o’r staff er mwyn arbed costau am fod y sefyllfa gyllido’n gynyddol fregus.
•    Ym mis Awst lansiwyd gwefan ddwyieithog newydd.
LAST_UPDATED2
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales Energy enterprise zone for Pembs. http://t.co/qB7ZkSSN Let's hope it includes green, clean and low carbon #bigopportunity

• 1 retweet

CynnalCymru
CynnalCymru The first Climate Change Commission report is launched today, read about it here http://t.co/pcuqjaW3 #ClimateChangeWales

Retweeted • 1 retweet

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales Great fun with Tenby Juniors and Ysgol Croesgoch at the start of their Operation Energy. Big savings made already...

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Part 1 RT @jrf_uk: Helping residents to help themselves can combat fuel poverty http://t.co/1PFzsYxj via @guardian #ukpoverty #fuelpoverty
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - First report on UK climate impact http://t.co/syeloue8
EcoCentreWales
EcoCentreWales Friends of the Earth - Why the Green Deal will fail on fuel poverty: http://t.co/moTpuyFd
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @WWFCymru: Pls RT: Could you lead #EarthHour? A Welsh community group could win £1000 http://t.co/66o3JMzY #lightsoutwales
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @JakeHollyfield: Yes, yes, yes! last three paras imp. @AmolRajan in the Indie: What's Cameron's Big Society? http://t.co/oVll2Phg
EcoCentreWales
EcoCentreWales Michael Mann: The climate scientist who the deniers have in their sights - Profiles - People - The Independent http://t.co/hRenpzzO
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Wind farm opponents in mid Wales set out their fears http://t.co/he0xSgs9