Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Amdanom Ni :: Gwybodaeth Gorfforaethol



Gwybodaeth Gorfforaethol PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Jake Hollyfield   
TUESDAY, 30 JUNE 2009 08:59
AddThis Social Bookmark Button

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ganlynol oddi ar ein tudalen dogfen llwytho i lawr.

•     cyfrifon wedi’u harchwilio ac adroddiad blynyddol 2008
•    adroddiad ôl-troed CO2 – adroddiad wedi’i gomisiynu’n arbennig ar effaith y Ganolfan ECO yn Nhrefdraeth o ddydd i ddydd
•    Polisiau – darllenwch ein polisïau llywodraethol i wybod ble rydym yn sefyll ar rai o’r prif faterion.

Sut rydym yn cael ein cyllido?

Am ein bod yn sefydliad elusennol rydym yn gwbl ddibynnol ar godi arian yn allanol i dalu am ein holl gostau gweithredol. Doedd gennym ddim ffynonellau cyllid craidd megis siop neu gaffi. Rydym yn ehangu ein haelodaeth er mwyn sicrhau llif arian bychan ond dibynadwy. Mae ein strategaeth gyllido yn sicrhau ein bod yn taenu'r ffynonellau cyllid rhag bod yna orddibyniaeth ar un ffynhonnell. Wrth gwrs, mae hyn yn anodd ei wneud. Ond rydym wedi llwyddo i ddenu arian trwy gontractau, cytundebau lefel gwasanaeth, wrth ymddiriedolaethau elusennol, incwm masnach, cyfraniadau a ffynonellau cyllido Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd rydym yn ddiolchgar iawn i’r canlynol am barhau â’u cefnogaeth:
•    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
•    Cyngor Sir Penfro
•    Cyngor Sir Powys
•    Cyngor Sir Ceredigion
•    Cyngor Sir y Fflint
•    Cyngor Gwynedd
•    Cyngor Sir Conwy
•    npower


Pwy sy’n ein rheoli?


Cadeirydd
Mae gan Ian Natusch gymwysterau fel peiriannydd trydanol a chefndir fel Darlithydd a Phennaeth mewn Addysg Bellach yn yr Alban. Symudodd i Sir Benfro i ymddeol yn 1995 ac fe’i gwnaed yn Ymddiriedolwr yn 1999.

Aelodau’r Bwrdd

Mae cefndir John Beck mewn darlithio ac addysg bellach hefyd ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cadwraeth a materion yn ymwneud â chynaliadwyedd. Fe’i gwnaed yn Ymddiriedolwr yn 1999.

Dr Brian John sefydlodd y Grŵp Ynni Gorllewin Cymru yn 1980.  Mae ganddo PhD a bu’n gweithio fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil yn yr Antarctica, Yr Ynys Las, Gwlad yr Ia a Sweden. Ers dychwelyd i Sir Benfro yn 1977 bu’n chwarae rhan yng ngweithgareddau grwpiau amgylcheddol lleol a chenedlaethol ac mae’n awdur a chyhoeddwr nifer o lyfrau yn y maes.

Mae gan George Potts gefndir mewn electroneg a diddordeb mewn peirianneg fecanyddol ac ynni adnewyddadwy. Cafodd ei wneud yn Ymddiriedolwr yn 1998. Mae’n un o hoelion wyth Clwb Cychod Trefdraeth, yn gweithio fel warden gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn aelod brwd o Gôr Dyfed.

Arferai Lorna Hipkins fod yn weithiwr iechyd proffesiynol ac mae’n cydredeg busnes manwerthu gyda’i gŵr yn Nhrefdraeth bellach.

Arferai Dr Wendy Ratcliffe fod yn Fiocemegydd Clinigol Ymgynghorol yn Birmingham. Mae’n Warden Gwirfoddol gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn aelod gweithredol o Ffrindiau’r Parc Cenedlaethol, Clwb Garddio Trefdraeth, yr Olwyn Fewnol a’r WRVS.

Ymgynghorydd materion gwledig ar ei liwt ei hun yw Edward Holdaway a chanddo brofiad helaeth o weithio i lywodraeth ganolog a lleol. Mae ganddo gryn ddiddordeb mewn cynllunio a rheoli tirweddau sydd wedi’u diogelu gan gynnwys datblygiad ynni adnewyddadwy mewn ardaloedd o’r fath. Yn ddiweddar daeth ei dymor o wasanaeth ar fyrddau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a PLANED i ben. Roedd hefyd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ynni Sir Benfro.

Ysgrifennydd y Cwmni

Gwnaed Elizabeth Perry yn Ysgrifennydd y Cwmni ym mis Ionawr 2001. Mae ganddi gefndir academaidd mewn Saesneg a bu’n gweithio i’r Gwasanaeth Sifil ac yn cadw tyddyn cyn troi at gyfrifyddiaeth fel gyrfa

LAST_UPDATED2
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Councils 'must lower carbon emissions' http://t.co/8gX4g0Js
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - UK government to review Green Deal http://t.co/J5ZCp013
EcoCentreWales
EcoCentreWales @UnitedWelsh Thanks for the #FF

in reply to UnitedWelsh

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales #energy efficiency and school ICT, good article http://t.co/cwQpkyaF, but bet there are more creative approaches in schools in #wales

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Renewables 'help jobs and growth' http://t.co/14diEl88

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Public back wind farm subsidies, survey suggests http://t.co/r4u1s2UF

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Thanks to @envirowales we have another great new project starting. Research into 'Stone Cold Housing'. Watch this space.
EcoCentreWales
EcoCentreWales Interesting article from Zoe Williams @guardianeco on the Fracking and Wind debates http://t.co/C8mWsjAW comments interesting as always.

• 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales @EnergysGroup thanks for the follow. we have used your #saveiteasy product to help us save energy
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @unclesofgroove: I have 4 tix spare 4 Howard Jones at Bristol Academy Wed night. 11th April. E-tickets so quick despatch. DM me.