You are here:
| Amdanom ni |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Jake Hollyfield |
| MONDAY, 29 JUNE 2009 15:05 |
|
Mae Canolfan ECO Gorllewin Cymru yn elusen wedi’i chofrestru ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Cafodd ei sefydlu yn 1980 o dan yr enw Grŵp Ynni Trefdraeth a Nanhyfer. Yr aelodau oedd grŵp bychan o wirfoddolwyr lleol oedd am ymgyrchu’n gadarnhaol ar faterion arbed ynni, creu ynni adnewyddadwy, y cynnydd mewn dibyniaeth ar danwydd ffosil a’i gyfraniad tuag at law asid a thwymo byd-eang, y symudiad tuag at bŵer niwclear a’r perygl cynyddol o dlodi tanwydd ymhlith y boblogaeth leol o ganlyniad i brisiau olew uchel. Ei gylch gwaith oedd ac yn wir deil yr un sef hyrwyddo materion yn ymwneud â’r defnydd o ynni a’r amgylchedd, sydd wedi’i grynhoi gan ei amcanion elusennol: 1. hyrwyddo addysg gyhoeddus ymhob agwedd o gadwraeth ynni a’r defnydd o ynni; 2. dileu tlodi tanwydd ymhlith y boblogaeth leol; 3. hyrwyddo addysg gyhoeddus mewn materion yn ymwneud â’r amgylchedd, cyn belled eu bod yn berthnasol i gadwraeth ynni a’r defnydd o ynni. Yn ei hanfod bwriad CEGC (Canolfan ECO Gorllewin Cymru) yw lleihau effaith cymdeithas ar yr amgylchedd, yn benodol ei gyfraniad tuag at dwymo byd-eang a newid hinsawdd ddianghenraid. Yr unig ffordd o wneud hyn yw cymryd camau i leihau’r galw ar yr amgylchedd oherwydd defnydd ynni a gwneud newidiadau i’r modd y mae cymdeithas yn byw er mwyn lleihau ei dibyniaeth ar ynni sy’n seiliedig ar danwydd ffosil. Mae’n bodloni’r amcanion hyn mewn nifer o ffyrdd a thrwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a budd-ddeiliad yn ogystal â chynulleidfa eang. Pedwar prif faes y gwaith a wneir gan CEGC yw: • effeithlonrwydd ynni • ynni adnewyddadwy • addysg amgylcheddol - newid hinsawdd a chynaladwyedd • tlodi tanwydd Ymhob un o’r meysydd hyn mae’r sefydliad yn gweithio gyda’r llywodraeth, awdurdodau statudol, ysgolion, cymunedau a chyrff trydydd sector eraill i gyflawni ei amcanion. Amrywia’r gynulleidfa darged o blant oedran ysgol i athrawon, preswylwyr tai, grwpiau cymunedol, cynllunwyr, swyddogion tai a staff eraill awdurdodau lleol, gosodwyr, cwmnïau gwasanaethau, byrddau iechyd a’r llywodraeth. Gwelir rhestr lawn o holl lwyddiannau CEGC ers ei sefydlu yn y fan hon ond talfyrrir y prif lwyddiannau fan hyn: • Cynlluniau arbed ynni arloesol • Gwasanaeth cynghori ynni annibynnol • Cynnig gwasanaeth cynghori yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni rhwng 1993 a 2009 • Cynlluniau a phrosiectau ynni adnewyddadwy, gweithio gyda chymunedau a phreswylwyr tai gan gynnwys rhoi cyngor, ymweld â safleoedd, dichonolrwydd, dyluniad a datblygiad prosiect a chyngor ar gyllido • Rhaglenni addysg sy’n gweithio o fewn yr ysgol er mwyn hyrwyddo newid hinsawdd a chynaladwyedd • Rhaglenni addysg sy’n datblygu deunyddiau ac adnoddau ar gyfer plant ac athrawon. |
| LAST_UPDATED2 |
Support the Eco Centre via SMS
You can now donate quickly and easily using your mobile phone.
Text ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10
to 70070.
Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.
UK tax payers can add Gift Aid too.
News and views

EcoCentreWales Energy enterprise zone for Pembs. http://t.co/qB7ZkSSN Let's hope it includes green, clean and low carbon #bigopportunity
• 1 retweet

CynnalCymru The first Climate Change Commission report is launched today, read about it here http://t.co/pcuqjaW3 #ClimateChangeWales
Retweeted • 1 retweet

Eco_Ed_Wales Great fun with Tenby Juniors and Ysgol Croesgoch at the start of their Operation Energy. Big savings made already...
Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales Part 1 RT @jrf_uk: Helping residents to help themselves can combat fuel poverty http://t.co/1PFzsYxj via @guardian #ukpoverty #fuelpoverty

EcoCentreWales BBC News - First report on UK climate impact http://t.co/syeloue8

EcoCentreWales Friends of the Earth - Why the Green Deal will fail on fuel poverty: http://t.co/moTpuyFd

EcoCentreWales RT @WWFCymru: Pls RT: Could you lead #EarthHour? A Welsh community group could win £1000 http://t.co/66o3JMzY #lightsoutwales

EcoCentreWales RT @JakeHollyfield: Yes, yes, yes! last three paras imp. @AmolRajan in the Indie: What's Cameron's Big Society? http://t.co/oVll2Phg

EcoCentreWales Michael Mann: The climate scientist who the deniers have in their sights - Profiles - People - The Independent http://t.co/hRenpzzO

EcoCentreWales BBC News - Wind farm opponents in mid Wales set out their fears http://t.co/he0xSgs9
Adrannau a Phrosiectau
Digwyddiadau a Gweithgareddau
| FRI FEBRUARY_SHORT 10 @18:30 - 08:00PM Maenclochog Community Cook-Off |







