Increase Size Decrease Size Reset font to default

You are here: Home :: Addysg



Addysg PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Jake Hollyfield   
TUESDAY, 30 JUNE 2009 08:19
AddThis Social Bookmark Button

Addysg yw un o brif feysydd gweithredu’r Ganolfan ECO. Mae hyn yn cynnwys addysgu’r cyhoedd yn ogystal â gweithio o fewn y gyfundrefn addysg ei hun.

Mae’r Adran Addysg ar hyn o bryd yn cael ei chyllido trwy gontractau byr yn ogystal â chyfraniadau gan ymddiriedolaeth elusennol neu fusnes lleol. Ar wahân i hynny cefnogir yr adran gan gronfeydd craidd y Ganolfan ECO.

Wrth ysgrifennu’r wybodaeth hon nid yw’r Ganolfan Ymwelwyr arloesol yn medru denu cyllid digonol i’w chadw ar agor a rhaid oedd ei chau ar ddiwedd mis Awst 2009.

Datblygu Rhaglen

Mae’r Rhaglen Addysg yn ymwneud â diwallu angen ymhlith addysgwyr a chyfranogwyr gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â dylunio a datblygu prosiectau a gweithgareddau sy’n hyrwyddo agenda addysg Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Bydeang (ADCDB) a newid hinsawdd. Cafodd hyn ei ddatblygu ar sail profiad ac arbenigedd y staff.

Canolbwynt y rhaglen addysg o hyd yw Newid Hinsawdd Cymru - rhaglen sy’n gosod newid hinsawdd yng Nghymru yn ei gyd-destun. Edrychir ar yr achosion a’r canlyniadau, dulliau o liniaru ac addasu. Rydym yn awyddus iawn i gynnal ei fwriad craidd o ddarparu data, adnoddau, deunyddiau ac ysbrydoliaeth i ddisgyblion ac athrawon ar draws Cymru, ac o gynnwys a dysgu am faterion newid hinsawdd ar draws y maes llafur. Dyluniwyd ac ysgrifennwyd ein deunydd cyhoeddedig gan athrawon wedi’u cymhwyso, a’u hadolygu gan eu cymheiriaid sy’n dal i ddysgu, ac addysgwyr eraill. O dan nawdd Newid Hinsawdd Cymru gwna’r Ganolfan ECO gyflwyniadau a phrosiectau mewn ysgolion yn ogystal â chynnal gwefan ddwyieithog boblogaidd sy’n delio â’r pwnc mewn modd aml-gyfryngol. Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau byr, animeiddiadau, adnoddau ‘papur’, gemau rhyngweithiol ac ymarferion sydd oll yn berthnasol i’r ystod oed ac wedi’u cysylltu â’r maes llafur.

Ein prosiect ysgol diweddaraf yw ClimArt sydd wedi’i anelu at ddisgyblion ysgolion cynradd. Mae’n anodd dysgu Newid Hinsawdd a Chynaladwyedd mewn dull ystyrlon i blant ifanc iawn. Anodd ond nid yn amhosibl. Trwy weithio gyda’r ‘Small World Theatre’ adnabyddus rydym wedi bod mewn pum ysgol yn cynhyrchu cerfluniau, modelau, pypedau a darnau sy’n cyfleu’r hyn mae’r plant wedi’i ddysgu yn ystod wythnos o wrando ar straeon, barddoniaeth, siarad a chwarae am faterion am y byd cyfan ac am newid hinsawdd. Cafwyd ymateb rhyfeddol wrth yr ysgolion a fu’n cymryd rhan ac aed â’r prosiect ClimArt i ysgolion eraill er mwyn iddo fod o fudd i nifer sylweddol o’r genhedlaeth nesaf.

Trwy ein gwaith cymunedol, a hynny’n bennaf yn cael ei wneud trwy ein Canolfan Ymwelwyr, rydym yn cyrraedd y cyhoedd drwy’r sir - a thu hwnt - sy’n awyddus i newid eu ffyrdd o fyw er mwyn bod yn llai o fwrn ar yr amgylchedd. Mewn nifer o achosion rhoddir cyfle na fydden nhw fel arall yn ei gael megis y cyfnod hawl i holi am ynni adnewyddadwy. Roeddem wedi trefnu bod gosodwyr, cynllunwyr ac arbenigwyr ynni adnewyddadwy ar gael i ateb cwestiynau cyfarwydd ag anghyfarwydd am ymarferoldeb gosod ystod o dechnoleg. Gwelwyd twf aruthrol mewn ymwybyddiaeth am ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd a’r dewisiadau eraill yn lle dibyniaeth ar danwydd ffosil dros y ddegawd ddiwethaf. Ac mae’n ofynnol i sefydliad fel y Ganolfan ECO i ddarparu gwybodaeth a’r modd i bobl gael gafael ar wybodaeth ddibynadwy. Oherwydd ein cysylltiadau â diwydiant, cynllunwyr, gosodwyr a phobl sydd wedi llwyddo i osod technoleg creu ynni adnewyddadwy rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i dynnu pobl at ei gilydd a throsglwyddo gwybodaeth arbenigol.

Hyfforddiant

Ysgolion ac athrawon
Gall gweithio gydag aelodau staff yn unigol ar ymweliadau ag ysgolion ildio rhywfaint o ganlyniadau positif ond mae’n waith llafurus iawn. Bydd defnyddio dulliau sydd wedi’u hen sefydlu yn fwy cost effeithiol o lawer o’n rhan ni a phwy bynnag fydd yn ein cyllido. Yr enghreifftiau gorau o hyn yw’r cyfarfodydd rhwydweithio a gynhelir yn lleol ac yn genedlaethol a’r diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) a gynhelir gan bob awdurdod lleol. Ar yr achlysuron hyn bydd staff sydd â diddordeb gwirioneddol wedi ymgynnull ar gyfer y bwriad penodol o gynyddu eu gwybodaeth a’u gallu cynhenid. Cafwyd rhywfaint o dystiolaeth o alw bychan o blith ymgynghorwyr awdurdodau addysg am gymorth i drefnu diwrnodau hyfforddiant ynghylch ADCDB.

Mae gennym gyfle, felly, i ddatblygu pecyn y gellir ei gymryd oddi ar y silff ar gyfer ymgynghorwyr ac athrawon. Byddai’n cynnwys cysylltiadau â’r maes llafur, ‘arloesedd’ - meddwl yn greadigol ynghylch ADCDB, ac adnoddau - rhai o’n heiddo ein hunain neu eraill y gwyddom amdanyn nhw.

Cymuned
Dros y blynyddoedd cynhaliodd y Ganolfan ECO nifer o sesiynau hyfforddiant yn ysbeidiol a phrofodd bob un ohonyn nhw’n boblogaidd. Mae’n gam synhwyrol i’r Ganolfan ECO ddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr o fod yn oddefol ac adweithiol i fod yn rhagweithiol er mwyn cynyddu ei effeithlonrwydd a chodi’i broffil.  Dangosodd ymchwil fod angen hyfforddiant hawdd ei gael ar gyfer gosod technoleg ynni adnewyddadwy cartref. Y Ganolfan ECO yw darparwr amlwg y gwasanaeth hwn o ystyried ein sgiliau, cysylltiadau, offer a lleoliad.

Rydym yn ymwybodol fod yna nifer o gyrsiau hyfforddi sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer adnoddau adnewyddadwy cyffredin ond dengys ein hymchwil fod yna awch am ‘sesiynau blasu’ undydd sy’n rhoi gwerth am arian a chyrsiau undydd ‘o ddifrif’. Mae’r cyrsiau eraill yn para am nifer o ddiwrnodau a dydyn nhw ddim yn rhad.

Gwerthuso

Mae’n bosib mesur gwerth y rhaglen addysg eang yn nhermau ei heffaith e.e. y nifer o ysgolion yr ymwelir â nhw, y nifer o ddisgyblion y llwyddwyd i’w cyrraedd, y nifer o athrawon sy’n cofrestru ar y wefan, y nifer o sesiynau HMS a gynhelir, y nifer o weithdai a drefnwyd, y nifer o ymweliadau â’r wefan a’r llwytho i lawr, y nifer o ymwelwyr yn y ganolfan ymwelwyr, y nifer o gyrsiau a drefnwyd a’r nifer o fynychwyr, y nifer o achlysuron a gynhelir ar hyd y lle. Am ei bod yn bosib cofnodi’r rhain mae’n bosib hefyd mynd gam ymhellach a chanfod nifer y buddiolwyr a bras gyfrif y gosodiadau a wnaed, cyfrif y meintiau ac amcangyfrif yr arbed ar garbon (gallwn gysylltu hyn â’n prosiect ‘Gorsaf Bŵer y Bobl’ sy’n edrych ar gyfraniad creu ynni adnewyddadwy ar raddfa fechan a chenhedlu micro i gyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru).

Beth rydym wedi’i wneud hyd yma er 2005?:


•Rhaglen Newid Hinsawdd Cymru a ariannwyd yn 2006 am ddwy flynedd.
•Lansiwyd ym mis Rhagfyr 2007 gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai.
•ClimArt – gweithgareddau addysg celf gyda’r ‘Small World Theatre’, a lansiwyd ym mis Ebrill 2008
    oRydym wedi cwblhau rhaglenni pedair wythnos o hyd mewn ysgolion cynradd lle'r oedd disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdai am newid hinsawdd, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r disgyblion wedyn yn cwblhau gwaith celf ar raddfa fawr mewn ymateb i’r newid hinsawdd.
•Darparu cytundeb Cefnogi Compost i Gyngor Sir Penfro – mis Mai 2006 – mis Mawrth 2008, gweithio gydag ysgolion a gwirfoddolwyr cymunedol.
•4,000 o ymelwyr yn galw heibio’r Ganolfan Ymwelwyr fesul blwyddyn.


Contractau tymor byr.


•Pecyn Gwirionedd Anghyfleus i Ysgolion ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru
•Adnoddau Dysgu Newid Hinsawdd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru
    oNi oedd yn gyfrifol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru am baratoi pecyn dilynol o adnoddau yn seiliedig ar y maes llafur ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd mewn amrediad o bynciau a gafodd ei ddosbarthu i’r holl ysgolion uwchradd.
•Adolygu a golygu cyhoeddiadau ynghyd â chynnig hyfforddiant i Gyngor Cefn Gwlad Cymru
    oBuom yn golygu adnoddau ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn eu cysylltu â’r maes llafur yn ogystal ag adolygu peth o’i ddeunyddiau a darparu hyfforddiant ar gyfer staff ei gyhoeddiadau.
•Adnoddau Newid Hinsawdd i gefnogi pynciau Ysgolion Eco ar gyfer Cadw Cymru’n Daclus
    oAdnoddau ystafell ddosbarth ar draws y cyfnodau allweddol wedi’u cysylltu â phynciau Ysgolion Eco
    oNi oedd prif bartner prosiect yn rheoli awduron o’r Gerddi Botaneg, Canolfan Technoleg Amgen a Phrifysgol Bangor yn ogystal ag ysgrifennu deunydd ein hunain.
•Cynhadledd FIT for Purpose – y gynhadledd ryngwladol gyntaf ynghylch y ddeddfwriaeth Feed in Tariff.
•Gweithgareddau gwyliau gyda staff y Ganolfan Ymwelwyr a chriw ‘Live Lightly’.
•Hawl i Holi ar draws y sir; ‘Gwaredu Rhwystrau rhag datblygiadau Ynni Adnewyddadwy’; ‘O’r Fforch i’r Fforc’; ‘Ynni Adnewyddadwy a Chynllunio’.
•Hyfforddiant HMS
    oSesiynnau hyfforddiant ar draws Cymru ar y cyd â Grŵp Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer Athrawon Ysgolion Uwchradd
    oHyfforddiant i swyddogion addysg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a swyddogion o’r rhaglen Ysgolion ECO.
    oSesiynau ar ddiwrnod hyfforddi ar newid hinsawdd i athrawon cynradd Sir Benfro, cynrychiolwyr yng nghynhadledd ysgolion cynaliadwy Abertawe ac athrawon Ceredigion oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen Ysgolion ECO.
    oCwrs ar weithgareddau dysgu yn gysylltiedig â chompostio ar gyfer athrawon ysgolion cynradd.
•Cyrsiau addysg gymunedol, ymweliadau a gweithdai yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy, permaddiwylliant ac adeiladu gwyrdd
•Cefnogaeth i fentrau trawsnewid gan gynnwys cyflwyniadau, hyrwyddo achlysuron a chynorthwyo gyda cheisiadau cyllido.
•Cynllun Gwobrau ysgolion Cynaliadwy
    oGweithdai a sgyrsiau am ynni a newid hinsawdd i dros 2,500 o fyfyrwyr mewn ysgolion ar draws Sir Benfro.
    oCefnogaeth ac adnoddau i athrawon dros y ffôn a thrwy e-bost.
    oChwarae rhan weithredol mewn asesiadau ysgol a chyfarfodydd grwpiau llywio.
•Rhoi profiad gwaith i chwech o fyfyrwyr ysgol rhwng 2007 a 2009

LAST_UPDATED2
 

Support the Eco Centre via SMS

You can now donate quickly and easily using your mobile phone.

Text  ECOW11 followed by £1,£2,£3,£4, £5 or £10

to 70070. 

Please support us. Every penny goes towards projects that help the fuel poor, promote sustainable lifetstyles and help us all reduce our fossil fuel reliance.

UK tax payers can add Gift Aid too.

News and views

EcoCentreWales
EcoCentreWales Energy enterprise zone for Pembs. http://t.co/qB7ZkSSN Let's hope it includes green, clean and low carbon #bigopportunity

• 1 retweet

CynnalCymru
CynnalCymru The first Climate Change Commission report is launched today, read about it here http://t.co/pcuqjaW3 #ClimateChangeWales

Retweeted • 1 retweet

Eco_Ed_Wales
Eco_Ed_Wales Great fun with Tenby Juniors and Ysgol Croesgoch at the start of their Operation Energy. Big savings made already...

Retweeted • 1 retweet

EcoCentreWales
EcoCentreWales Part 1 RT @jrf_uk: Helping residents to help themselves can combat fuel poverty http://t.co/1PFzsYxj via @guardian #ukpoverty #fuelpoverty
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - First report on UK climate impact http://t.co/syeloue8
EcoCentreWales
EcoCentreWales Friends of the Earth - Why the Green Deal will fail on fuel poverty: http://t.co/moTpuyFd
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @WWFCymru: Pls RT: Could you lead #EarthHour? A Welsh community group could win £1000 http://t.co/66o3JMzY #lightsoutwales
EcoCentreWales
EcoCentreWales RT @JakeHollyfield: Yes, yes, yes! last three paras imp. @AmolRajan in the Indie: What's Cameron's Big Society? http://t.co/oVll2Phg
EcoCentreWales
EcoCentreWales Michael Mann: The climate scientist who the deniers have in their sights - Profiles - People - The Independent http://t.co/hRenpzzO
EcoCentreWales
EcoCentreWales BBC News - Wind farm opponents in mid Wales set out their fears http://t.co/he0xSgs9