|
Croeso i wefan y Ganolfan ECO ar ei newydd wedd. Ceir peth wmbreth o wybodaeth amdanom yn ogystal â’r holl wybodaeth fyddwch ei angen i’ch cynorthwyo i arbed ynni yn y cartref neu hyd yn oed greu eich gwres neu eich trydan eich hun. Darllenwch am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni wedi bod ar y blaen ym maes prosiectau ynni cynaliadwy dros y 30 mlynedd diwethaf. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r Ganolfan ECO, wel, rhaid i chi ddysgu mwy am ein polisïau, ein Hymddiriedolwyr a’n cyllidwyr. Pam na wnewch chi ymaelodi os yw’r hyn sy’n cael ei gynnig yn apelio atoch neu anfon cyfraniad tuag at ein gweithgareddau. Mae angen cefnogaeth ariannol ar fudiadau fel ein heiddo ni bob amser a po fwyaf a gawn gan bobl debyg i chi, yna, po fwyaf sicr fydd ein dyfodol. Yn olaf, os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, wel, cysylltwch â ni trwy’r dudalen gyswllt. Fe gysylltwn ninnau â chi gynted ag y medrwn wedyn. Rydym yn awyddus i sicrhau fod y safle hwn yn weithredol gynted â phosib; felly, dros yr wythnosau nesaf bydd swm y wybodaeth fydd ar gael yn Gymraeg yn cynyddu. |